Dyfeisiwyd,
Cynlluniwyd a Perfformiwyd gan
Gavin Skerritt

Yn y perfformiad
yma gan unigolyn mae’r siwrnai yn dechrau gyda dinistr
rhyfel, allan o hyn mae plentyn yn cael ei eni - yn ddiniwed,
unig a chwilfrydig. Tra’n crwydro wrth ymylon llyn sy’n
cael ei chwipio gan y gwynt mae’r bachgen yn dyst i ymddangosiad
ffurf yn codi allan o’r dwr llonydd. Mae’r weledigaeth
yma a’i diethrwydd yn hudo’r bachgen. Mae’r
ddau yn uno, ond mae’r ddau yn cydsynio os bydd y bachgen
yn taro ‘tair ergyd ddi-achos’ yna bydd ei hundeb
yn cael eu torri a bydd y ffurf yn dychwelyd i’r llyn.
Seiliwyd Y Weledigaeth
ar chwedl Llyn y Fan Fach gyda symboliaeth sy’n hyn na
Christnogaeth. Fe ddefnyddir symudiad, pypedwaith, barddoniaeth
a chân yn y perfformiad i fforio theatr defodau’r
werin a chwedlau, gan gwestiynu ein canfyddiad o iaith a’i
defnydd ohoni. Beth ddaeth gyntaf, yr ystyr neu’r swn?
Cyfarwyddwyd
gan Irene Hardy
Sain gan Patrick Marmora
Mae’r
cynhyrchiad yma yn addas ar gyfer rhai dros 15 mlwydd oed ac
yn ddarn perffaith i siaradwyr y Gymraeg, dysgwyr yr iaith a
chynulleidfa Eingl-Gymraeg. Mae’r perfformiad yn canolbwyntio
ar rythm a dwyster y seiniau, yn hytrach na gwir ystyr y geiriau.
Mae’r darn yn agor byd y siaradwyr Cymraeg, a’u
storïau a llenyddiaeth i fyny i gynulleidfa di-Gymraeg.
Yn bennaf mae’r perfformiad yn un gweledol, fel bod testun
yn atgyfnerthu’r ddelwedd trwy’r amser.
Apêl rhyngwladol
sydd i’r Weledigaeth, gan groesi pob ffin ieithyddol.
Fe fuasai yn ddarn gwyl gwych yn nhermau fforio hen chwedl werinol,
ei symboliaeth, a’u perthnasedd i ni heddiw yn ei defnydd
o iaith fel mynegiant pur yn hytrach na syniadau haniaethol.
Drwy ddewis y Gymraeg fel cyfrwng fy mherfformiad rhoddwyd y
rhyddid i mi ddarganfod swn, ton a rhythm i gyfathrebu fy syniadau
ac ystyriaethau.
| Anghenion
y Perfformiad |
| Gofod
sydd ei angen i’r perfformiad: |
lled
3.8m,
dyfnder 3.5m,
uchder 2.1m. |
| Trydanol: |
Nid
oes angen darparu offer goleuo a sain. Mae angen mynediad
at ddau bwynt pwer. |
| Gosod
i fyny: |
Mae
angen awr ar gyfer hyn cyn y perfformiad. |
| Gadael: |
Mae
angen 45 munud ar ôl y perfformiad i ddadosod. |
| Cynulleidfa:
|
Wedi
ei gynllunio ar gyfer uchafswm o 70. |
| Addasrwydd
oedran: |
Dros
15 mlwydd oed. |
| Hyd:
|
50
munud. |
| Argaeledd:
|
Ar
gyfer dyddiadau, gwybodaeth bellach a manylion cysylltwch
â Gavin
Skerritt
gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. |