Sioe Gymraeg ar lwyfan Llundain
Mae actor ifanc
yn paratoi i lwyfannu sioe un dyn Gymraeg yn Llundain, a hynny
er nad yw ef ei hun yn gwbwl rhugl yn yr iaith. Gobaith Gavin
Skerritt yw y bydd Cymry Cymraeg, y di-Gymraeg a dysgwyr yn
mwynhau’r cyfuniad o symudiad, pypedwaith, barddoniaeth
a cherddoriaeth sy’n sail i sioe Y Weledigaeth sydd I’w
gweld yn Theatr Finborough o nos Fawrth nesa’ tan nos
Sadwrn.
Dyw’r
actor 32 oed erioed wedi byw yng Nghymru, ond mae ganddo gysylltiadau
ag Ystrad Mynach lle bu’n treulio gwyliau ei blentyndod.
Ond wrth addasu un o hen straeon tylwydd teg Chwedl Llyn y Fan
Fach ar gyfer y llwyfan, fe benderfynodd yn syth mai dim ond
yn y Gymraeg oedd modd ei pherfformio.
“Mae
fy mam yn Gymraes, ond dwi erioed wedi byw yng Nghymru,”
meddai Gavin Skerritt , sydd wedi bod ar gyrsiau Cymraeg yn
Aberystwyth a’r Fenni. “Fyddai’r stori ddim
wedi gweithio cystal yn Saesneg.” Arbrofi gyda’r
defnydd o iaith yw diddordeb Gavin Skerritt . Iddo ef, mae swn
a rhythm geiriau cyn bwysiced â’r ystyr. Dyna pam
ei fod e’n hyderus y bydd aelodau di-Gymraeg gynulleidfa
yn mwynhau gwrando ar Y Weledigaeth, ac yn deall be’ sy’n
digwydd o’r elfennau gweledol. “Dw i’n gwbod
mod i’n disgwyl lot o’r gynulleidfa, ond be’
dw i’n gofyn yw iddyn nhw neilltuo unrhyw amheuon ynghlych
dilyn y naratif a jyst gwrando.
“Yn y
bon, mae ganddoch chi ddau berfformiad mewn un ac mi fydd y
profiad I’r di-Gymraeg yn hollol wahanol i brofiad y rhai
sydd yn deall y testun. “Fe fydd y di-Gymraeg yn gorfod
defnyddio mwy o’u holl synhwyrau.”
Mae gan Gavin
Skerritt gymaint o ffydd yn ei greadigaeth nes ei fod e wedi
talu am y cyfan o’i boced ei hun. “Liciwn i lwyfannu’r
Mabinogion fel hyn rhyw dro,” meddai, “Ond fe fyddai
hynny falle yn rhy uchelgeisiol ar hyn o bryd.”
Gan Golwg.
