Gavin Skerritt - Theatre, Puppetry, Performance Art  

     

 

 

 


GWELEDIGAETH NEWYDD

Mae’n beth da gweld fod Theatr y Maes yn rhoi llwyfan i amrywiaeth o gynhyrchiadau theatrig yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Dechreuodd arlwy’r theatr ddydd Llun gyda sioe go wahanol sef sioe bypedau o’r enw Y Weledigaeth yn cael ei pherfformio gan Gavin Skerritt. Ond nid sioe bypedau gonfensiynol oedd hon. Roedd gan y pypedwr ei hun ran bwysig yn y sioe ac yr oedd yn ymddangos ar y llwyfan droeon yn ystod y perfformiad.

Actor nid pypedwr
Actor oedd yma felly ac nid pypedwr gan fod gan Gavin Skerritt ran mor bwysig yn y cynhyrchiad a’r pypedau eu hunain. Roedd hyn yn dipyn o gamp gan fod yn rhaid i’r actor gyfleu’r stori i ni ond neb dynnu gormod o sylw ato’i hun gan mai sioe bypedau oedd hon i fod. Roedd Gavin Skerritt wedi ei wisgo mewn du i gyd a’i wyneb wedi ei baentio’n wyn. Ymddangosi felly fel rhyw gysgod yn hytrach na pherson dynol. Elfen arbrofol arall oedd y ffaith ein bod ni’r gynulleidfa yn eistedd ar y llwyfan. Roedd hyn yn golygu fod mwy o bwysau ar yr actor gan ein bod mor agos iddo. Roedd hyn yn cryfhau’r berthynas rhyngddom ni’r gynulleidfa a’r actor ac roedd y tensiwn i’w deimlo wrth i’r cyfan ddigwydd yn llythrennol o flaen ein llygaid. Yn wahanol i sioe bypedau arferol sy’n apelio at y gynulleidfa yn weledol roedd hon hefyd yn apelio yn glywedol.

Gallu i greu synau
Roedd synau a cherddoriaeth yn rhan bwysig iawn o’r perfformiad. Roedd yr actor ei hun yn creu’r rhan fwyaf o’r synau hyn. Roedd ganddo allu anhygoel i wneud sw^n gwynt yn chwythu a sw^n dw^r yn ogystal â chreu lleisiau’r anifeiliaid a chanu caneuon gwerin. Mae Gavin Skerritt yn amlwg yn actor profiadol ac roedd hyn i’w weld yn glir yn y perfformiad theatrig y rhoddodd i ni fel naratif y sioe. Roedd yn geirio’n glir ac roedd ei wyneb yn mynegi cymaint wrth iddo ddweud y stori. Roedd wir wedi llwyr ymgolli yn y darn. Roedd y sioe yn adrodd dwy stori ac felly roedd ddrama rhwng y pypedau yn digwydd ar ddwy lefel.

Cerddoriaeth yn creu naws
Dechreuodd y sioe gyda sw^n anifeiliaid, gwartheg yn bennaf a cherddoriaeth oedd yn creu naws werinol ac urddasol. Roedd hyn yn creu’r argraff mai stori o fyd y chwedlau oedd yn ein haros. A stori a naws chwedlonol iddi a gafwyd wrth i ni weld dau byped, gwr ifanc a merch urddasol mewn ffrog wen laes. Roedd y gw^r yn amlwg yn ceisio ennill cariad y ferch ac mae’n ymdrechu’n galed i’w hennill. Ond nid yw hynny’n dasg hawdd gan fod hon yn ferch nad yw’n barod i ildio. Mae’r stori yn ein hatgoffa o chwedl Llyn y Fan Fach a chyfaddefodd Gavin Skerritt ei hun fod y stori honno wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo wrth gyfansoddi. Ar lefel arall mae stori serch arall. Mae honno’n digwydd ar fwrdd ar y llwyfan ei hun tra roedd y stori gyntaf ar y llaw arall yn digwydd o flaen llen yng nghefn y set gyda’r actor yn cuddio y tu ôl i’r llen honno. Merch mewn gwisg Gymreig yw cymeriad y stori hon. Mae’n sefyll ar debot arian a gwelwn hi’n ochneidio. Yna mae llongwr, gwr o’r enw Jac, yn ymddangos o’r bocs te. Gwelwn o lais yr actor sy’n ei ddynwared fod y llongwr hwn wedi meddwi. Mae hon yn olygfa ddoniol wrth iddo ddisgyn o’i gwch i’r lan. Ar y lan mae’r ferch sef Myfanwy yn ei weld ac mae’r ddau’n syrthio mewn cariad. Y peth nesaf a welwn yw dwy ddol arall yn hel clecs ac yn trafod Jac a Myfanwy. Deuwn i wybod fod y ddau wedi gorfod priodi gan fod Myfanwy yn disgwyl plentyn. Mae’r marched wrth eu bodd yn trafod hyn ac fel petaen nhw wrth eu bodd yn gweld Myfanwy yn dioddef.

Stori drist
Yn ddiweddarach mae’r actor yn awgrymu i ni fod Jac yn boddi ar y môr a Myfanwy hithau yn galaru ar ei ôl. Stori hynod o drist ac mae’r gerddoriaeth yn ategu hynny. Mae’r stori yn fy atgoffa o Dan y Wenallt, drama wych Dylan Thomas. Mae’r gymdeithas yn debyg iawn i’r ddrama honno, y marched yn ymhyfrydu yng ngofid eu cyfeillion a’r cyfan yn digwydd mewn pentref glan mor rhywle yn Ne Cymru. Dyma gynhyrchiad hynod o arbrofol ac yn sicr roedd yr arbrawf yn gweithio.


Roeddwn i wedi mynd i’r theatr dan ddisgwyl perfformiad gweledol. Ond roedd yma lawer mwy na hynny. Roedd y gerddoriaeth a’r synau cefndir yn gwneud y perfformiad yn un arbennig yn glywedol hefyd. Nid sioe arwynebol er mwyn adloniant yn unig oedd hon ond sioe ag iddi ôl meddwl a dychymyg. Doedd hi ddim yn sioe ysgafn a llawn hwyl fel y byddech yn disgwyl ei weld mewn sioe bypedau, ond sioe yn adrodd stori drist.

Gadael llawer i’r dychymyg
Roedd y sgript yn gynnil y tu hwnt. Doedd yr actor ddim yn datgelu gormod i ni gan adael llawer i’r dychymyg. Mae’n debyg felly pe bawn i’n gwylio’r cynhyrchiad eto y byddwn i’n gweld llawer mwy o elfennau ynddo nad oedd yn hawdd sylwi arnyn nhw’r tro cyntaf. Dywedodd Gavin Skerritt ei fod wedi defnyddio delweddau o farddoniaeth Gymraeg yn y gwaith. Mae wedi defnyddio’r ddelwedd o’r lleuad llawn sydd mewn cerdd gan Saunders Lewis yn y stori gyntaf. Yn yr ail stori mae wedi defnyddio’r ddelwedd o’r byd wyneb i waered sydd yn digwydd yng ngherdd enwog Gruffydd ab yr Ynad Goch wrth iddo gyfleu cyflwr y genedl wedi marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Dyma yw arwyddocâd troi’r pypedau wyneb i waered wedi marwolaeth Jac. Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylwi ar y delweddau hyn. Roedd Gavin Skerritt ei hun yn cyfaddef nad oedd yn disgwyl i bobol sylwi ar hyn i gyd y tro cyntaf. Byddai’n rhaid i ni edrych ar y cynhyrchiad fwy nac unwaith er mwyn ei werthfawrogi’n iawn.

Symudiadau gofalus
Yn ogystal â chynildeb yn y naratif roedd symudiadau’r actor o amgylch y set wedi eu cynllunio’n ofalus hefyd. Roedd popeth yn digwydd ar amser ac roedd rhythm arbennig i’r holl gynhyrchiad. Roedd gan bob symudiad, sw^n a gair ei le pwrpasol yn y sioe ac roedd y cyfan yn ddisgybledig tu hwnt, bron fel dawns. Yn olaf, mae’n rhaid canmol y set a oedd wedi ei greu gan Gavin Skerritt ei hun. Roedd Gavin Skerritt yn defnyddio popeth i bwrpas – darn o fara yn cyfleu lleuad llawn, dail te yn cyfleu pridd yn disgyn ar gorff Myfanwy oedd yn addas iawn o gofio sut y bu iddi ddioddef yn ystod ei bywyd o ganlyniad i sgwrsio gwragedd y pentref dros eu paneidiau te. Rydw i’n falch iawn felly fy mod i wedi cael y cyfle i weld y perfformiad unigryw hwn. Mae’n braf gweld bod cynhyrchiadau arbrofol fel hyn yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg.

Ymateb arbennig
Mae Gavin Skerritt wedi teithio ar hyd a lled Ewrop gyda’r sioe ac wedi derbyn ymateb arbennig. Bydd yn perfformio’r sioe yn y Gymraeg ac mae’n ddiddorol gweld sut y mae’r sioe wedi apelio at gynulleidfa dramor nad ydyn nhw’n deall yr iaith. Mae hynny wrth gwrs yn brawf o lwyddiant y sioe. Mae’n dangos yn glir fod yr actor trwy ei ddefnydd o’r pypedau a’r props, symudiadau ac yn fwy na dim y synau yn gallu cyfleu’r stori i gynulleidfa eang. Rwy’n edrych ymlaen i weld mwy o gynhyrchiadau gan yr actor hwn yn y dyfodol. Ei freuddwyd un diwrnod yw creu gwaith fydd yn defnyddio themâu’r Mabinogi a dwi’n siw^r y bydd hynny’n gweithio’n dda mewn sioe o’r math hwn ond does dim amheuaeth y bydd yn dipyn o sialens.

Catrin Jones (BBC Cymru Awst 2002)

Back to the top

 


 

Gavin Skerritt, London, UK.
Mobile: +44 (0)7963 800 860
Email: info@gavinskerritt.com

 

Copyrightx © 2010 Gavin Skerritt, London, UK.

n